Ynglŷn â Mynediad Cyfathrebu’r DU

Communication Access UK

Communication Access UK

Mae Communication Access UK yn fenter a ddatblygwyd mewn partneriaeth rhwng elusennau a sefydliadau sy’n rhannu gweledigaeth i wella bywydau pobl ag anawsterau cyfathrebu. Dan arweiniad Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith , mae’r bartneriaeth yn cynnwys:

 

 

Rydym wedi datblygu pecyn hyfforddi cwbl rhad ac am ddim gyda safonau ac adnoddau i’ch helpu chi, neu’ch busnesau / sefydliad i gefnogi pobl sydd ag anawsterau cyfathrebu yn well.

Ar ôl i chi ymgymryd â’r hyfforddiant, rydym yn gobeithio y bydd gennych chi a’ch staff well dealltwriaeth o anawsterau cyfathrebu ac y byddwch yn defnyddio’r egwyddorion o’r hyfforddiant i wella eich cyfathrebu, a thrwy wneud hynny wella bywydau’r miliynau o bobl ledled y wlad sy’n profi anawsterau cyfathrebu bob dydd.

Beth yw anawsterau cyfathrebu?

Beth yw anawsterau cyfathrebu?

Mae miliynau o bobl ledled y Deyrnas Unedig yn cael anawsterau cyfathrebu, gan gynnwys oedolion a phlant.

 

Mae’r rhain yn cynnwys pobl ag amrywiaeth o gyflyrau gan gynnwys parlys yr ymennydd, anableddau dysgu, syndrom Down, awtistiaeth, nam ar y clyw, strôc, anaf i’r ymennydd, canserau’r pen a’r gwddf, clefyd Parkinson, clefyd niwronau modur, dementia a llawer mwy.

 

Nid yw cyfathrebu’n ymwneud â’r gallu i siarad yn unig ond hefyd â’r gallu i glywed a deall yr hyn a ddywedir wrthym; efallai y bydd rhai pobl yn ei chael hi’n anodd gofyn cwestiwn, enwi gwrthrych neu ofyn am help, tra gall eraill gael anawsterau lleferydd sy’n eu gwneud yn anodd eu deall. Efallai y bydd eraill yn cael problemau prosesu gwybodaeth ac anawsterau gyda darllen ac ysgrifennu. Efallai y bydd rhai yn defnyddio dyfeisiau cyfathrebu ac angen amser i greu eu neges.

 

Mae anawsterau cyfathrebu yn gadael miliynau heb lais, sy’n golygu nad ydyn nhw’r gallu cael mynediad a chyfle cyfartal.

Caroline's photo

Pam hybu Cyfathrebu Hygyrch?

Pam hybu Cyfathrebu Hygyrch?

Mae’r symbol cyfathrebu hygyrch yn cael ei ategu gan safonau sydd wedi’u datblygu’n ganllawiau manwl a phecyn eDdysgu hygyrch.

 

Pan fydd y rhain wedi cael eu mabwysiadu a’u rhoi ar waith, bydd eich busnes / sefydliad yn cael ei achredu a’i gydnabod fel un sy’n hybu cyfathrebu hygyrch ac yn cael ei gynnwys mewn cyfeiriadur cenedlaethol.

 

Trwy’r hyfforddiant, bydd staff yn ennill y sgiliau a’r hyder i ymgysylltu â phobl ag anawsterau cyfathrebu yn llawer mwy effeithiol.

 

Bydd arddangos y symbol yn caniatáu i bobl ag anawsterau cyfathrebu sylweddoli bod eich busnes wedi gwneud yr addasiadau priodol i gefnogi eu hanghenion a’u helpu i ymgysylltu â’ch gwasanaethau gyda mwy o hyder.

 

Bydd gwell profiad cyfathrebu i bawb yn golygu profiad gwell gwasanaethau cwsmeriaid bob amser.

 

Bydd y symbol cyfathrebu hygyrch a’r safonau yn:

 

  • creu mwy o hygyrchedd i nwyddau a gwasanaethau i bobl sydd ag anawsterau cyfathrebu
  • helpu i leihau’r teimlad o ynysu cymdeithasol ac yn gwella ansawdd bywyd pobl sydd ag anawsterau cyfathrebu
  • cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o anawsterau cyfathrebu
  • cyfrannu at ddatblygiad staff ac yn eu galluogi i ddarparu gwasanaethau cwsmeriaid o ansawdd uchel i bawb; a
  • chefnogi busnesau a sefydliadau i gyflawni eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Mewngofnodi